Ymateb Gofal Cymdeithasol Cymru i ymholiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus sy’n edrych ar wasanaethau cyhoeddus ar gyfer plant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal o fewn cylch gwaith y Pwyllgor ynglŷn â’r economi, yr effeithiolrwydd a’r effeithlonrwydd y mae adnoddau yn cael eu defnyddio wrth gyflawni swyddogaethau cyhoeddus

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn gorff sydd wedi’i noddi gan Lywodraeth Cymru a sefydlwyd o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 i warchod, hyrwyddo a chynnal diogelwch a llesiant y cyhoedd yng Nghymru.

Ei nodau yw:

-        darparu hyder cyhoeddus yn y gweithlu gofal cymdeithasol

-        arwain a chefnogi gwelliant mewn gofal cymdeithasol

-        datblygu gweithlu’r blynyddoedd cynnar a gofal cymdeithasol.

Fel rhan o’n nod o ddarparu hyder cyhoeddus yn y gweithlu gofal cymdeithasol, rydym yn cadw cofrestr o reolwyr a gweithwyr gofal plant preswyl. Mae’n rhaid i staff berthyn i’r gofrestr hon er mwyn gweithio fel gweithwyr gofal plant preswyl.  Yn ogystal, rydym ni’n gyfrifol am asesu addasrwydd rheolwyr a gweithwyr cofrestredig i ymarfer gofal ar gyfer plant preswyl.

Pwyntiau allweddol:

-        nid yw 47 y cant o weithwyr gofal plant preswyl cofrestredig yn gymwys

-        mae nifer anghymesur o’n hatgyfeiriadau addasrwydd i ymarfer yn gysylltiedig â gweithwyr gofal plant preswyl

-        ers mis Ebrill 2018, rydym ni wedi bod yn gyfrifol am gefnogi gwella gwasanaethau gofal cymdeithasol.  Mae gwella gwasanaethau ar gyfer plant sydd mewn gofal yn un o’n tri maes blaenoriaeth.   Rydym yn ymgymryd ag amrediad o weithgareddau er mwyn cyflawni hyn, yn cynnwys ymchwil,  adnoddau hyfforddi a diwygio cymwysterau.

Cofrestr y Gweithlu

Yn 2017, cyhoeddwyd ein nawfed adroddiad ynglŷn â rheolwyr a gweithwyr gofal plant preswyl[1].  Y prif bryder a nodwyd yn yr adroddiad hwn yw bod y ganran o weithwyr gofal plant preswyl (GGPPau) nad ydyn nhw’n meddu ar y cymhwyster angenrheidiol wedi codi o 41 y cant yn 2014 i 47 y cant yn 2017[2].  Gall staff gofrestru ar ôl cwblhau fframwaith sefydlu, ond er mwyn ailgofrestru ar ôl tair blynedd, maen nhw angen ennill cymhwyster. 

Awgryma ein tystiolaeth fod llawer o staff yn dewis gadael y gofrestr yn hytrach nag ennill y cymhwyster a pharhau i weithio.  Mae trosiant GGPPau sydd ar y gofrestr yn uchel.  Yn 2017, y gyfradd drosiant ar gyfer GGPPau oedd 21 y cant.  Roedd trosiant rheolwyr gofal plant preswyl cofrestredig ar y gofrestr yn is ar 13 y cant.

Mae angen gwneud mwy o waith i ddeall pam y mae cymaint o weithwyr yn dewis peidio ag aros yn eu swyddogaethau.  Byddwn ni wedyn yn defnyddio’r wybodaeth hon i gynllunio sut y gallwn ni wella cyfleoedd gyrfa er mwyn denu a chadw gweithwyr i’r grŵp hwn.

Yn ôl ein hadroddiad, mae 70 y cant o GGPPau yn gweithio i ddarparwyr preifat; mae 22 y cant yn gweithio yn uniongyrchol i awdurdodau lleol; 7 y cant i’r trydydd sector ac mae 1 y cant yn gweithio i asiantaethau.

Dengys tystiolaeth bod perthnasau sefydlog gydag oedolion yn arwain at wydnwch a chanlyniadau gwell i blant.  Yn ogystal, gwyddom fod y ffaith fod plant yn byw oddi cartref ar wahân i’w teuluoedd yn golygu eu bod yn debygol o gael profiad o drawma neu gamdriniaeth.  Gall yr ystadegau arwain at bryderon ynglŷn â sefydlogrwydd y gweithlu a pha mor barod ydyn nhw i gefnogi’r grŵp hwn o blant.

Addasrwydd i ymarfer

Gellir cyfeirio gweithiwr neu reolwr gofal plant preswyl at Gofal Cymdeithasol Cymru os oes pryderon ynglŷn â’u haddasrwydd i ymarfer.  Gall ymchwiliadau gael eu gwneud yn unig os yw unigolyn wedi cofrestru – yna maen nhw’n cael eu llywodraethu gan ein rheolau ni[3].  Gallan nhw ystyried yn ogystal a yw gweithwyr wedi cydymffurfio â’n canllawiau ymarfer[4].

Os nad yw GGPP wedi cofrestru oherwydd, er enghraifft, maen nhw yn y broses o gwblhau eu fframwaith sefydlu, rydym ni’n dibynnu ar ymarferion recriwtio diogel, gyda chyflogwyr yn gwirio geirda ac yn gwneud gwiriadau cefndir yn effeithiol.  Mae tystiolaeth anecdotaidd o’n timau addasrwydd i ymarfer yn awgrymu nad yw hyn yn gyfan gwbl gadarn, yn arbennig felly, lle mae unigolyn yn gweithio i asiantaeth neu pan mae recriwtio yn cael ei wneud gan drydydd parti.  Yn ogystal, rydym ni’n ymwybodol o unigolion sy’n wynebu ymchwiliadau addasrwydd i ymarfer ac wedi newid cyflogwyr heb ddweud wrth y cyflogwr newydd am y trafodion.

Mae ein tystiolaeth yn dweud wrthym ni bod y mwyafrif o’n hatgyfeiriadau ynglŷn â GGPPau i’n tîm addasrwydd i ymarfer ynglŷn â’r canlynol:

-        iaith anaddas gyda’r unigolion sy’n defnyddio’r gwasanaethau neu o flaen unigolion

-        ataliadau

-        camgymeriadau meddygol

-        gadael pobl ifanc heb eu goruchwylio ac mewn risg o gael niwed

-        creu perthnasau anaddas (ambell waith yn gamdriniaeth) gyda phlant a phobl ifanc.

Mae atgyfeirio GGPPau i’n tîm addasrwydd i ymarfer yn anghymesur o’i gymharu â grwpiau cofrestredig eraill o weithwyr gofal cymdeithasol.  Yn 2016 tan 2017, roedd 45 y cant o’r holl atgyfeiriadau gofal cymdeithasol i’n tîm addasrwydd i ymarfer yn ymwneud â GGPPau.  Yn gyffredinol, mae GGPPau yn cynrychioli oddeutu 23 y cant o’r gofrestr gyfan.

Cyfraniad Gofal Cymdeithasol Cymru tuag at wella gwasanaethau i blant sy’n derbyn gofal

Ers mis Ebrill 2018, rydym wedi bod yn gyfrifol am wella gwasanaethau gofal cymdeithasol.  Mewn ymgynghoriad â Llywodraeth Cymru a’r sector gofal cymdeithasol, rydym wedi penderfynu gwella gwasanaethau ar gyfer plant sy’n derbyn gofal yn un o’n tri maes blaenoriaeth.

Rydym yn aelod o Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Wella Canlyniadau i Blant, ac rydym yn cymryd rhan yn weithredol ym mhob un o’r tair ffrwd waith, ar bob lefel o’r strwythur.  Ymhellach, rydym yn cymryd rhan yng Ngrŵp Gorchwyl a Gorffen Gofal Plant Preswyl gan Lywodraeth Cymru.

Rydym yn y broses o wneud ymchwil gwmpasu sy’n edrych ar arloesi a gwella mewn gofal cymdeithasol plant yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar blant sy’n derbyn gofal a phlant sydd ar fin derbyn gofal.  Yna, byddwn ni’n rhannu’r ymchwil hon i gynulleidfa mor eang ag sy’n bosibl er mwyn rhannu ymarfer da.

Rydym ni wedi comisiynu adnodd e-ddysgu ynglŷn â chyfrifoldebau’r awdurdod lleol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ar gyfer plant sydd angen llety diogel ac mae’r rhain ar gael ar ein Hyb Gwybodaeth a Dysgu[5]. Rydym ni wedi comisiynu ymchwil ar blant sydd angen gofal a chefnogaeth mewn unedau diogel oherwydd rhesymau lles.

Rydym yn arwain datblygiad gan y Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth i ddatblygu canllawiau ymarfer ynglŷn ag ymyriadau therapiwtig ar gyfer anghenion emosiynol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal.  Mae ar fin ei gwblhau erbyn gwanwyn 2018 ac mae’n seiliedig ar ymchwil a wnaed ar gyfer yr Adran Iechyd yn Lloegr, ond wedi’i cael ei addasu o fewn cyd-destun Cymru.

Rydym ni’n datblygu ein gwaith ynglŷn ag ymarfer sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau, gyda’r nod o ymdrin â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod ac adeiladu gwydnwch a llesiant emosiynol plant.  Rydym yn gweithio ar hyb gwella ar gyfer ymarferwyr ar-lein i alluogi mynediad at ymchwil ac ymyriadau ar sail tystiolaeth.  Ynghyd â’r ymchwil gwmpasu, a’r gwaith ymyriadau therapiwtig, byddwn yn datblygu strategaethau er mwyn rhannu ymarfer da drwy Gymru.

Gweithlu

Mewn perthynas â gweithwyr cymdeithasol, rydym yn y broses o adolygu eu gradd, gyda’r nod o sicrhau bod gweithwyr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso yn gallu cwrdd ag anghenion heriol ac amrywiol y plant y maen nhw’n gofalu amdanyn nhw.  Cyfraniad gwybyddus i ddatblygu gwydnwch plant yw cael perthnasau sefydlog gydag oedolion.  Felly, bydd yr adolygiad hwn yn cefnogi datblygiad parhaol y gweithlu i gwrdd yn effeithiol ag anghenion plant ar gyfer gweithwyr medrus, profiadol a thalentog.  Yn ogystal, rydym yn comisiynu’r Fframwaith Dysgu ac Addysg Proffesiynol Parhaus (DAPP).  Mae hwn yn cefnogi ymarferwyr i ddatblygu eu dealltwriaeth a’u sgiliau o weithio gyda phlant a theuluoedd o fewn cyd-destun Cymru.

Rydym ni’n diwygio’r fframwaith sefydlu iechyd a gofal cymdeithasol, gyda’r nod o ddarparu mwy o gefnogaeth ar gyfer gweithwyr gofal plant preswyl.  Mae gwaith parhaus, gyda phartneriaid, yn adolygu’r fframwaith gymwysterau ar gyfer gweithwyr iechyd plant ac oedolion a gofal cymdeithasol.  Ar gyfer ein plant sydd wedi dioddef y trawma a’r gamdriniaeth mwyaf, mae’r agweddau hyn o ddatblygu’r gweithlu yn hanfodol oherwydd rydym ni angen bod yn sicr y gallwn ni gynnig gofal gwell i’r plant hyn nag y byddan nhw’n ei dderbyn pe bydden nhw gartref.

Rydym ni’n ymwybodol o’r heriau ehangach o ddarparu gofal o ansawdd da i blant sy’n derbyn gofal, ac fel y cyfryw, rydym yn cymryd rhan drwy adolygu’r rheoliadau maethu a datblygu fframwaith maethu cenedlaethol, gan gynnwys hyfforddiant ôl-gymeradwyo ar gyfer gofalwyr maeth, yn cynnwys gofalwyr sy’n berthynas, cyfran gynyddol o’r boblogaeth ofalu sy’n maethu.



[1]Rheolwyr a Gweithwyr Gofal Plant Preswyl ar y Gofrestr yng Nghymru 2017, Gofal Cymdeithasol Cymru //  Residential Child Care Managers and Workers on the Register in Wales 2017, Social Care Wales

[2] Tabl 20, cyfeiriad uchod; Table 20, above reference

[3]Rheolau addasrwydd i ymarfer, Gofal Cymdeithasol Cymru //  Fitness to practise rules, Social Care Wales

[4]Y gweithiwr gofal preswyl plant: Canllawiau ymarfer ar gyfer gweithwyr gofal preswyl plant sydd wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru //  The residential child care worker: Practice guidance for residential child care workers registered with Social Care Wales

[5] Yr Ystad Ddiogeledd, Gofal Cymdeithasol Cymru (Cyngor Gofal Cymru yn flaenorol)